Yesterday the Food Standards Agency published the Food Hygiene Rating Scheme Audit of Display and Business Survey: 2023. The report provides the results of a covert audit of food businesses in England, Northern Ireland and Wales, and provides an estimate of the display of food hygiene rating stickers at physical premises and online.
It also explores businesses’ attitudes toward the scheme and their reasons for display or non-display.
One of the key takeaways is the gulf between those that display their rating at their physical premises and those that display their rating online.
In England, where display is not mandatory at a physical premises, 69% display in-person. However, only 10% of food businesses with an online platform display their food hygiene rating prominently on their social media or website. In Northern Ireland and Wales, it is mandatory to display your hygiene rating at your physical premises. 92% display in-person in Wales and 91% do so in Northern Ireland. However, only 8% of food businesses in Wales display online, and only 5% do so in Northern Ireland.
Most businesses agree that using a digital platform should be no different from ordering from a physical premises, especially considering the growing importance of customers’ online experience.
This guide will help businesses either download their sticker as an image for social media or as something to be embedded into their website that will change automatically as your rating does.
https://lnkd.in/eRPusd5i
#DisplayYourRatingOnline #Takeaway #HygieneRating #FoodSafety #Business
---
Ddoe, gwnaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd gyhoeddi Archwiliad Arddangos y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a’r Arolwg Busnes ar gyfer 2023. Mae’r adroddiad yn cyflwyno canlyniadau archwiliad cudd o fusnesau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac yn rhoi amcangyfrif o faint o fusnesau sy’n arddangos sticeri sgôr hylendid bwyd ar safleoedd ac ar-lein.
Mae hefyd yn archwilio agweddau busnesau tuag at y cynllun a’u rhesymau dros arddangos neu beidio.
Yn Lloegr, lle nad yw arddangos yn orfodol mewn safle ffisegol, mae 69% yn arddangos ar eu safle. Fodd bynnag, dim ond 10% o fusnesau bwyd â llwyfan ar-lein sy’n arddangos eu sgôr hylendid bwyd yn amlwg ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol neu eu gwefan. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’n orfodol arddangos eich sgôr hylendid ar eich safle ffisegol. Mae 92% yn arddangos ar eu safle yng Nghymru, ac mae 91% yn gwneud hynny yng Ngogledd Iwerddon. Fodd bynnag, dim ond 8% o fusnesau bwyd yng Nghymru sy’n arddangos ar-lein, a dim ond 5% sy’n gwneud hynny yng Ngogledd Iwerddon.
Bydd y canllaw hwn yn helpu busnesau i lawrlwytho eu sticer fel delwedd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, neu fel delwedd i’w hymgorffori yn eu gwefan a fydd yn newid yn awtomatig wrth i’ch sgôr newid.
https://lnkd.in/e7cwJBRj