Rydym yn ei wneud yn haws nag erioed i gadw mewn cysylltiad â’n gwaith yn eich cymuned leol🌱 Rydym wedi lansio pum cyfrif rhanbarthol newydd ar y cyfryngau cymdeithasol ar Facebook ac Instagram, gan eich helpu i gael gwybod am fentrau, digwyddiadau a chyfleoedd Cadwch Gymru’n Daclus yn eich ardal chi. Dyma’r cyfrifon newydd i’w dilyn: 📍 De Orllewin Cymru 📍 De Ddwyrain Cymru 📍 Canolbarth Cymru 📍 Gogledd Orllewin Cymru 📍 Gogledd Ddwyrain Cymru Os ydych yn fusnes lleol, yn sefydliad mwy, neu yn unigolyn sy’n angerddol am gadw Cymru’n hardd, mae’r cyfrifon hyn yn ddelfrydol ar gyfer diweddariadau a ffyrdd i gymryd rhan. 👉 Ewch i Facebook: https://bit.ly/4fWuKf6 ac Instagram: https://bit.ly/4hdiBU6 i ganfod mwy