City & County of Swansea’s Post

Mae cynlluniau i greu Sgwâr y Castell gwyrddach a chwblhau nifer o ddatblygiadau newydd ar y gweill i Abertawe yn 2025 i hybu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas ac i ddenu rhagor o siopau a busnesau eraill. Bydd gwaith dan arweiniad Cyngor Abertawe i drawsnewid Sgwâr y Castell yn mynd rhagddo ar ddechrau 2025 a bydd yn cynnwys creu mwy o fannau gwyrdd, gan gynnwys lawntiau a phlannu deunydd. Bydd hefyd atyniad dŵr newydd ar gyfer chwarae rhyngweithiol, yn ogystal ag ardaloedd eistedd newydd yn yr awyr agored, sgrîn deledu enfawr newydd uwchben cyfleuster tebyg i safle seindorf, dau bafiliwn newydd ar gyfer busnesau bwyd, diod neu fanwerthu yn ogystal â chadw mannau a ddefnyddir gan y cyhoedd. Bydd y cynllun swyddfeydd newydd yn 71/71 Ffordd y Brenin yn cael ei gwblhau ar ddechrau 2025 a bydd yn darparu lle i 600 o weithwyr mewn sectorau fel y rhai technolegol a digidol. Mae dros 75% o'r lle ar gyfer swyddfeydd yno bellach dan gynnig. Disgwylir y bydd y gwaith adeiladu hefyd yn dechrau flwyddyn nesaf ar hwb sector cyhoeddus ar hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant. Bydd cannoedd o weithwyr y Cyngor a staff sector cyhoeddus eraill yn gweithio yno unwaith y bydd yr adeilad wedi'i gwblhau, a fydd yn galluogi'r gwaith ailddatblygu ar safle'r Ganolfan Ddinesig ar lan y môr. Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Gwyddom pa mor bwysig yw canol dinas Abertawe i'r preswylwyr lleol a'r bobl sy'n gweithio yno. "Nid y Cyngor sy'n gyfrifol am bennu ardrethi busnes a denu siopau i adeiladau nad ydym yn berchen arnynt, ond yr hyn y gallwn ni ei wneud yw helpu i greu canol y ddinas lle mae miloedd yn fwy o bobl yn byw ac yn gweithio ynddo. "Bydd hynny'n rhoi hwb i nifer yr ymwelwyr y mae eu hangen i ddiogelu ein busnesau presennol ac yn denu mwy i siopa a busnesau eraill yn y dyfodol, gan fynd i'r afael â heriau fel siopa ar-lein. "Mae'r holl waith hwn yn rhan o'n hymrwymiad i greu canol dinas ffyniannus a chreu rhagor o swyddi a chyfleoedd i bobl leol." Gallai'r gwaith adeiladau ar westy newydd ar dir rhwng yr arena a'r LC ddechrau yn Abertawe erbyn diwedd 2025. Mae cynlluniau hefyd ar waith i wella mynedfeydd marchnad dan do arobryn Abertawe. Mae cynlluniau eraill a arweinir gan y Cyngor yn 2025 yn cynnwys adnewyddu'r adeilad rhestredig gradd dau yng Ngwaith Copr Yr Hafod-Morfa er mwyn ei ailddefnyddio eto. Bydd y gwaith yn cynnwys adnewyddu'r adeilad i gynnwys bwyty neu nifer o ddefnyddiau posib eraill.

  • No alternative text description for this image
  • No alternative text description for this image
  • No alternative text description for this image
  • No alternative text description for this image
  • No alternative text description for this image
    +2

To view or add a comment, sign in

Explore topics