City & County of Swansea’s Post

Mae cynlluniau'n mynd rhagddo ar gyfer datblygiad mawr newydd yng nghanol dinas Abertawe a fydd yn helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr a chefnogi masnachwyr. Mae Cyngor Abertawe'n ceisio mynegiannau o ddiddordeb gan gwmnïau sydd â diddordeb mewn cyflwyno cais i adeiladu'r hwb sector cyhoeddus sydd wedi'i glustnodi ar gyfer hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant. Ceisir mynegiannau o ddiddordeb drwy Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru erbyn dydd Gwener 21 Chwefror cyn i'r broses dendro ddechrau ym mis Mawrth. Bydd yr hwb sector cyhoeddus yn cynnwys arwynebedd llawr masnachol ar gyfer siopau a bwytai ar y llawr gwaelod. Bydd Cyngor Abertawe ac amrywiaeth o bartneriaid sector cyhoeddus yn meddiannu'r swyddfeydd uwchlaw. Bydd cannoedd o weithiwyr yn yr hwb sector cyhoeddus a fydd yn cynnwys pedwar llawr uwchben y ddaear ac un llawr islaw. Bydd y cyngor ac Urban Splash, ei bartneriaid adfywio, yn datblygu'r hwb sector cyhoeddus arfaethedig, dan berchnogaeth y cyngor. Hwn fyddai cam cyntaf y broses o ailddatblygu'r safle'n gyffredinol dan arweiniad Urban Splash, sy'n parhau i weithio ar gynlluniau ar gyfer gweddill y safle. Byddai'r hwb sector cyhoeddus hefyd yn galluogi ailddatblygu safle'r Ganolfan Ddinesig ar lan y môr. Mae Urban Splash yn parhau i weithio ar gynigion ar gyfer y safle hwnnw a bydd y cyhoedd yn cael cyfle i roi adborth am y rhain unwaith y cânt eu cwblhau. Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae angen cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol dinas Abertawe i gefnogi ein masnachwyr presennol a denu mwy o siopau a busnesau eraill yn y dyfodol. "Bydd yr hwb sector cyhoeddus yn cyfuno â chynlluniau eraill fel 71/72 Ffordd y Brenin ac Ardal y Dywysoges i helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr, gan hefyd ddechrau'r broses o adfywio hen safle Canolan Siopa Dewi Sant yn gyffredinol. "Mae mynegiannau o ddiddordeb mewn cyflwyno tendr am y cyfle i adeiladu'r datblygiad hwn yn gam arall ymlaen i'r cynllun hwn, a rhagwelir y bydd y gwaith adeiladu'n dechrau'n nes ymlaen eleni." Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r hwb sector cyhoeddus yn un rhan o raglen barhaus i adfywio canol y ddinas sy'n werth mwy nag £1bn. Bydd yn creu swyddi i bobl leol ac yn trawsnewid canol ein dinas i fod yn un o'r lleoedd gorau yn y DU i fyw, gweithio ac astudio ynddo, yn ogystal â'i fwynhau ac ymweld ag ef."

  • No alternative text description for this image

To view or add a comment, sign in

Explore topics