Mae’r cwmni ymchwil Alma Economics wedi cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o ryddhad ardrethi busnes. Nod yr adolygiad hwn yw deall effeithiolrwydd y cymorth ariannol presennol a gynigir i dalwyr ardrethi er mwyn llywio sut gall y pecyn presennol o ryddhad cael ei diwygio yn y dyfodol. Mae Alma Economics eisiau cynrychioli barn a safbwyntiau trethdalwyr yn yr adolygiad trwy gyfres o grwpiau ffocws ar-lein ym mis Ionawr. Os oes gennych farn ar y rhyddhadau ardrethi busnes presennol, mae hwn yn gyfle gwych i fynegi’ch barn! Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, llenwch y ffurflen mynegi diddordeb hon: https://lnkd.in/ecRwRKnn Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r cyfeiriad e-bost yn y ffurflen uchod.