Wales & West Housing’s Post

Roedd Emily, prynwr tro cyntaf lleol, a’i phartner, yn ei chael hi’n anodd cael tŷ y gallent fforddio ei brynu. Yna, daethant ar draws tŷ dwy ystafell wely yng Nglannau’r Barri, gan lwyddo i’w brynu fel rhan o’r cynllun Perchentyaeth Cost Isel (LCHO). Roedd Emily yn byw yn lleol a llwyddodd i sicrhau morgais ar sail ei chyflog unigol hi, a oedd yn golygu ei bod yn gymwys ar gyfer cynllun LCHO Aspire2Own, a gaiff ei redeg gan Gyngor Bro Morgannwg a Grŵp Tai Wales & West. Mae’r cynllun yn galluogi Prynwyr Tro Cyntaf i brynu 100% o’u cartref am 70% o’i werth ar y farchnad, heb yr angen i dalu rhent na llog ar yr ecwiti a rennir. Nawr, wrth i’w teulu dyfu, mae Emily a’i phartner wedi gwerthu’r tŷ yn ôl trwy’r cynllun, gan agor y drws iddynt brynu cartref mwy o faint i’w teulu. Darllenwch mwy: dilynwch y ddolen yn y sylwadau

  • No alternative text description for this image

To view or add a comment, sign in

Explore topics