Dŵr Cymru'n dechrau proses dendro gwerth £750m
Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi hysbysiad contract i'r farchnad ar gyfer caffael gwaith a gwasanaethau gwerth £750m.
Mae'r cwmni nid-er-elw yn chwilio am bartneriaid cyflenwi i ddarparu rhaglen sylweddol o osod mesuryddion cwsmeriaid newydd, trwsio gollyngiadau ar y rhwydwaith ac atgyweirio a chynnal ein rhwydwaith dŵr i sicrhau gwelliannau i asedau’r cwmni.
Bydd angen i’r cyflenwyr weithio yn ystwyth, i ganolbwyntio ar wasanaethau safon uchel i’r cwsmeriaid a darparu atebion arloesol o ran cyflenwi gwasanaethau sy’n rhoi gwerth am arian.
Bydd y cytundeb yn para am gyfnod o hyd at 8 mlynedd, ar gyfer AMP8 (2025-2030) a rhan gyntaf AMP 9, gyda’r gwaith a'r gwasanaethau yn cael eu darparu drwy ddau drefniant gwahanol.
Bydd un yn canolbwyntio ar fesuryddion, rhaglenni apwyntiadau cwsmeriaid, a chynnal a chadw’r rhwydwaith dŵr. Amcangyfrifir fod cyfanswm gwerth y cytundeb ar ei uchaf yn £400m.
Bydd yr ail gytundeb yn canolbwyntio ar wella a thrwsio y prif bibellau dwr, ar draws ystod o brosiectau cymhlethdod isel, canolig ac uchel sy'n delio â phibellau dan bwysau. Amcangyfrifir fod cyfanswm gwerth y cytundeb ar ei uchaf yn £352m.
Recommended by LinkedIn
Mae gwaith Dŵr Cymru yn cynhyrchu £1bn y flwyddyn i economi Cymru, gyda’r cwmni yn cyflogi bron i 4,000 ac yn cefnogi 5,000 o swyddi pellach drwy gyflenwyr a chontractwyr.
Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr, Cynllunio Asedau a Chyflawni Cyfalaf yn Dŵr Cymru:
"Mae'r contract hwn yn rhan hanfodol o'n hymgyrch i sicrhau gwelliant parhaus ein gwasanaeth i'n cwsmeriaid ar draws Cymru a Sir Henffordd.
"Mae gennym dargedau heriol ar gyfer gollyngiadau, ymyriadau i gyflenwadau a safon dŵr i'n cwsmeriaid, a byddwn ond yn llwyddo gyda'r targedau hyn drwy gydweithio'n agos â'n partneriaid yn y sector i gyflawni gwaith gwella ein hasedau.
"Mae maint a gwerth y gwaith hwn yn dangos uchelgais ac ymdrech Dŵr Cymru i ddarparu'r gwasanaeth a'r gwerth am arian gorau posibl i'n cwsmeriaid."