Roeddem yn falch iawn o estyn croeso cynnes i Gareth Davies AS, Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Ddiwylliant, Twristiaeth, Chwaraeon a Gogledd Cymru yn ystod ei ymweliad ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddoe. Roedd yn gyfle gwych i arddangos rhai uchafbwyntiau o’r casgliad cenedlaethol - o weithiau celf gan yr artist adnabyddus Cymreig Gwen John, a phortread eiconig Renoir o La Parisienne neu’r Fenyw Las sydd newydd ddychwelyd ar ôl cael ei harddangos yn rhyngwladol, i’n casgliad arbennig o dros 2 filiwn o sbesimenau Molysgiaid a’r ymchwil hanfodol ar rywogaethau anfrodorol ymledol sy'n cael ei arwain gan ein cydweithwyr gwyddorau naturiol. Rydym yn ddiolchgar i'n partneriaid Pinc College (Creative), sy'n darparu rhaglenni dysgu ar gyfer pobl ifanc niwroamrywiol o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd - eu campws cyntaf a'r unig gampws yng Nghymru. Diolch yn fawr. Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl yn fuan! **** We were delighted to extend a croeso cynnes to Gareth Davies MS, Shadow Cabinet Secretary for Culture, Tourism, Sport and North Wales during his visit to National Museum Cardiff yesterday. It was a fantastic opportunity to showcase a few highlights from the national collection – from artworks by the renowned Welsh artist Gwen John, and the iconic Renoir portrait of La Parisienne or The Blue Lady who has just returned from being loaned internationally, to our impressive collection of over 2 million Mollusca specimens and the vital research on invasive non-native species led by our colleagues in natural sciences. We're grateful to our partners Pinc College (Creative), who are delivering learning programmes for neurodiverse young people from National Museum Cardiff - their first and only campus in Wales. Diolch am ymweld. We look forward to welcoming you back soon!
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Museums, Historical Sites, and Zoos
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru. Play your part in Wales’s story.
About us
Croeso i Amgueddfa Cymru! Welcome to Amgueddfa Cymru - Museum Wales! Eich stori chi yw ein stori ni. Gallwch ymweld â'n hamgueddfeydd cenedlaethol ledled Cymru i ddysgu am ddiwydiannau lleol, trysorau eich ardal, hanesion bywyd bob-dydd a llawer mwy! Beth yw eich stori chi? Mae mynediad i’n holl amgueddfeydd AM DDIM diolch i gymorth Llywodraeth Cymru. Ewch i'r wefan i gael gwybod mwy am: ymweld, swyddi, arddangosfeydd a digwyddiadau arbennig, ac i archwilio ein casgliadau ar-lein. www.amgueddfa.cymru Elusen ydyn ni. Mae eich cefnogaeth chi yn sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu. Diolch o galon ******************** Be part of the story of Wales. You can visit our national museums across Wales to learn about local industry, treasures found on your doorstep, the stories behind everyday life and much more! What’s your story? Entry to our museums is FREE, thanks to funding from the Welsh Government. Check out our website to find out more about; visiting, special exhibitions, events, and to explore our collections online. www.museum.wales We are a charity. Your support helps ensure that Amgueddfa Cymru belongs to everyone and is here for everyone to use. Play your part in Wales’ story: by volunteering, by joining, by donating. Diolch o galon We're a bilingual community, posting messages in Cymraeg (Welsh) and English. Not familiar with the Welsh language? Here's a quick example to have a go: Amgueddfa = Museum "am - gee - eth - va" Cymru = Wales "kum - ree"
- Website
-
https://museum.wales
External link for Amgueddfa Cymru – Museum Wales
- Industry
- Museums, Historical Sites, and Zoos
- Company size
- 501-1,000 employees
- Headquarters
- Cardiff/Caerdydd
- Type
- Nonprofit
- Founded
- 1907
- Specialties
- National Museums, Art, Archaeology, Natural Sciences, Education, Public Policy, History, Public Engagement, Exhibitions, Conservation, Digital Media, Libraries and Archives, Photography, Fundraising, Tourism, Events, Charity, and Cymraeg
Locations
-
Primary
National Museum Cardiff
Cathays Park/Parc Cathays
Cardiff/Caerdydd, CF10 3NP, GB
Employees at Amgueddfa Cymru – Museum Wales
-
Liz Connolly
Head Of Human Resources at Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
-
Graham Davies
Digital Experience Manager at Amgueddfa Cymru – Museum Wales
-
Nia Martin-Evans
Digital Content Manager
-
Sian Sullivan
Swyddog Datblygu Cymunedol Menter Iaith Casnewydd Community Development Officer
Updates
-
Profiad Gwaith Ysgol 🖼️ 🦖 School Work Experience Wyt ti'n fyfyriwr coleg neu chweched dosbarth gyda diddordeb mewn hanes a threftadaeth? Eisiau dysgu am y swyddi a chyfleoedd gyrfa mewn amgueddfa?Bydd profiad gwaith ar gael i fyfyrwyr chweched dosbarth (blwyddyn 12) a choleg ar draws safleoedd Amgueddfa Cymru. * * * Are you a sixth form student that has an interest in history and heritage? Do you want to learn about the variety of jobs or career opportunities in museum settings? Work experience placements will be taking place for sixth form (year 12) and college students across our different Amgueddfa Cymru sites! https://lnkd.in/gG4FnHZ9 👇
-
Roedd hi'n bleser croesawu aelodau Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd i Big Pit yr wythnos hon. Cafodd Aelodau daith o gwmpas y safle, i weld y profiad llawn yn Big Pit gan gynnwys y daith dan ddaear, Brenin Glo: Y Profiad Cloddio, arddangosfa'r Baddondai Pen Pwll ac adeiladau gwreiddiol y lofa sy'n cynnig taith gyfoethog ac ymdrwythol drwy hanes glofaol. *** It was a pleasure to welcome members of the Senedd Culture, Communications, Welsh Language, Sport and International Relations Committee to Big Pit this week. Members had a tour of the site, seeing the full offer at Big Pit including the underground tour, King Coal: The Mining Experience, the Pithead Baths exhibition area, and all other original colliery buildings which offer a rich and immersive journey into mining history.
-
-
Gŵyl Fwyd Sain Ffagan 🌞🥙 St Fagans Food Festival Bydd Gŵyl Fwyd yn dychwelyd i Sain Ffagan ar 13 a 14 Medi ac mae ceisiadau ar gyfer stondinau nawr ar agor! Ydych chi'n fusnes bwyd neu ddiod yng Nghymru? Cwblhewch ein ffurflen gais erbyn dydd Gwener 4 Ebrill a gallwch chi fod yn rhan o'r ŵyl fwyd eleni! https://lnkd.in/ewQUJYAr **** Our annual Food Festival will return to St Fagans on 13 and 14 September and applications for stalls are now open! Are you a food or drinks company based in Wales? Fill in our application form by Friday 4 April and you could be part of this year's festival. https://lnkd.in/eKneZtbh
-
-
Roedd hi'n bleser dod â'n casgliadau a'n harbenigedd i'r RSA House, Llundain, neithwr fel rhan o Wythnos Cymru Llundain! Cynhaliwyd trafodaeth banel ar ein casgliad Gwen John, gan roi cipolwg breintiedig ar brosesau a thegnegau'r artist. Diolch i'n Curadur casgliadau Gwen John a'n Uwch Gadwraethydd Papur, yn ogystal â'n gwesteion arbennig Mirain Iwerydd a Seren Morgan Jones. **** It was a pleasure to bring our collections and expertise to RSA House, London, last night as part of Wales Week / London! We held a panel discussion on our rarely seen Gwen John collection, providing insight into the artist’s processes and techniques. Thank you to our Gwen John curator and Senior Paper Conservator, as well as our special guests Mirain Iwerydd and Seren Morgan Jones.
-
-
I gau Mis Hanes LHDTC+, a oedd yn dathlu Ymgyrchedd a Newid Cymdeithasol, eisteddom i lawr gyda’n Prif Guradur Datblygu Casgliadau: LHDTC+, Mark Etheridge, i drafod adegau allweddol o weithredu yng Nghymru. Darganfyddwch fwy am ein casgliadau LGBTQ+ a'r hanes a'r straeon personol y tu ôl iddynt trwy ddilyn: https://bit.ly/4iCbwNZ **** To close LGBTQ+ History Month, which celebrated Activism and Social Change, we sat down with our Principal Curator of Collection Development: LGBTQ+, Mark Etheridge, to discuss key moments of activism in Wales. Discover more about our LGBTQ+ collections and the history and personal stories behind them by following the link: https://bit.ly/4kfU1V3
-
Yr wythnos diwethaf cynhaliwyd digwyddiad diddorol i’n Noddwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Soniodd curaduron o’n hadran Gwyddorau Naturiol am yr ymchwil a wnânt ar rywogaethau anfrodorol, mwydod y môr a bywyd morol, palaeontoleg, a botaneg. Mwynhaodd y Noddwyr sgyrsiau hynod ddiddorol ar y pynciau cyn archwilio stondinau ffair wyddoniaeth – a chafodd eu cynnal yn orielau’r Amgueddfa. Mae ein Noddwyr yn ffynhonnell incwm hanfodol sy’n cefnogi ein gwaith craidd, wrth fwynhau’r cyfle i ddod yn nes at Amgueddfa Cymru drwy ddigwyddiadau tu ôl i’r llenni, yn ogystal â chwrdd ag unigolion â’r un meddylfryd. Bydd ein digwyddiad Noddwyr nesaf yn archwilio ein casgliad celf. Darganfyddwch fwy ar ddod yn Noddwr ar ein gwefan, neu cysylltwch â ni i gofrestru diddordeb mewn mynychu digwyddiad i roi blas. Diolch yn fawr iawn i'r Noddwyr a ymunodd â ni ar gyfer y digwyddiad hwn a'i gwneud yn noson arbennig iawn. https://lnkd.in/eTkws--k ****** Last week we held an insightful event for our Patrons at National Museum Cardiff. Curators from our Natural Sciences department talked about the research they do on non-native species, sea worms and marine life, palaeontology, and botany. Patrons enjoyed fascinating talks on the topics before exploring science fair stalls – all taking place in the Museum’s galleries. Our Patrons provide a vital source of income that support our core work, while enjoying the opportunity to get closer to Amgueddfa Cymru through behind the scenes events, as well as meeting like-minded individuals. Our next Patrons’ event will explore the Museum’s art collection. Find out more on becoming a Patron on our website, or get in touch to attend a taster event. Diolch yn fawr iawn to the Patrons who joined us for this event and made it a really special evening. https://lnkd.in/eXkG7KqJ
-
-
Rydym wedi ein tristáu i glywed y newyddion bod yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi marw. Roedd ei frwdfrydedd, cyfraniad ac ymrwymiad i fywyd diwylliannol Cymreig heb ei ail. Trwy gydol ei fywyd cyhoeddus, gan gynnwys ei gyfnod fel Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, roedd yn lais hanfodol yn hyrwyddo a datblygu diwylliant yng Nghymru a thu hwnt, ac yn gefnogwr brwd Amgueddfa Cymru. Roedd yr Arglwydd Elis-Thomas yn hoff o Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac yn ei rôl fel gweinidog roedd yn rhan o’r dathliadau o agor yn dilyn cwblhau y prosiect ailddatblygu yno. Mae pawb o Amgueddfa Cymru yn danfon eu cydymdeimladau at deulu a ffrindiau Arglwydd Elis-Thomas. *** We are saddened to hear of the death of Lord Dafydd Elis-Thomas. His passion, contribution and dedication to Welsh cultural life was unrivalled. Throughout his public life, including as Minister for Culture, Tourism and Sport, he was significantly involved in promoting and enhancing culture in Wales and beyond, and was hugely supportive of Amgueddfa Cymru. Lord Elis-Thomas was in particular fond of St Fagans National Museum of History and as the minister at the time was involved in the opening following the completion of the redevelopment project at the Museum. Everyone at Amgueddfa Cymru sends their heartfelt condolences to Lord Elis-Thomas’s family and friends.
-
-
AIL-AGOR YFORY - RE-OPENING TOMORROW 🏛️🖼️🦖 Ar ôl ychydig o ddyddiau prysur, rydym yn falch cael rhannu y byddwn yn ail-agor eto yfory! Diolch i chi i gyd am eich amynedd wrth inni ddatrys y mater, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd. Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a ddangoswyd i'n hamgueddfa a'n casgliadau cenedlaethol, ac yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl. Beth am neidio ar y cyfle ac archebu tocyn i'n harddangosfa bwerus Streic! 84-85, ymweld â’n casgliadau byd-enwog, neu gwrdd â ffrindiau am baned, cynlluniwch eich ymweliad nesaf yn https://lnkd.in/ehbmvcjx Os hoffwch wybod mwy am y rhesymau am gau dros dro, darllenwch ein datganiad diweddaraf: https://bit.ly/4jFdyOF 🏛️🖼️🦖 After a busy few days, we’re happy to share that we will re-open tomorrow! Thank you all for your patience while we addressed the issue, and we apologise for any inconvenience it caused. We’ve been touched by the support shown for our museum and our national collection, and we can’t wait to welcome you all back. Whether you’re looking to book tickets for our thought-provoking exhibition, Streic! 84-85 Strike!; visiting our world-renowned collection, or meeting friends for a coffee, plan your next visit at www.museum.wales/Cardiff If you’d like to know more about why we closed temporarily, please read the statement on our website: https://bit.ly/4hMdMS5
-
-
AR GAU - CLOSED Oherwydd materion cynnal a chadw’r adeilad a phryderon iechyd a diogelwch, mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi cau i’r cyhoedd tan hysbysiad pellach. Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi. Diolch am eich cydweithrediad a’ch amynedd. Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i’n gwefan neu dilynwch ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. 🚫 Due to building maintenance and health and safety concerns, National Museum Cardiff is closed to the public until further notice. We sincerely apologise for any inconvenience that this may cause, and thank you for your cooperation and patience. For the latest information, please visit our website or follow us on our social media channels.
-