Development Bank of Wales’ Post

Mae'r newid i sero net yng Nghymru wedi hen ddechrau wrth inni gyrraedd 2025 🍃 Cyhoeddwyd Adroddiad Economaidd a Chyllidiol Cymru 2024 Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, sy’n dangos tueddiadau allweddol sy’n llunio ein dyfodol ac yn darparu’r cyd-destun economaidd a chyllidol ar gyfer y gyllideb ddrafft. Gyda gostyngiad o 36% mewn allyriadau ers 1990, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at rôl hollbwysig swyddi gwyrdd wrth sbarduno twf economaidd a gwella bywyd yng Nghymru. Fel buddsoddwyr profiadol, rydym yn deall y pwysau y mae busnesau yn ei wynebu a’r blaenoriaethau cystadleuol ar gyfer adnoddau a buddsoddiad, yn enwedig o ran gweithredu sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio. Rydym yn gweithio gyda chwsmeriaid newydd a phresennol i nodi meysydd o effaith amgylcheddol a hyrwyddo camau gweithredu sydd eu hangen i drosglwyddo i sero net. Darganfod mwy am ein harian a chefnogaeth i fusnesau a pherchnogion tai: https://ow.ly/Uw3X50UQfRF #EconomiWerdd #Cynaliadwy Llywodraeth Cymru / Welsh Government . Climate Cymru . Busnes Cymru / Business Wales . Business News Wales

  • No alternative text description for this image

To view or add a comment, sign in

Explore topics