New pop-up cinemas, growing creative hubs and expansive film festivals will engage and entertain communities across Wales thanks to Film Exhibitor Funding from Ffilm Cymru Wales.
With National Lottery funding delegated by Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales, Ffilm Cymru Wales provides support to independent film exhibitors to entertain and inspire people throughout the nation with a greater choice of films. Ffilm Cymru Wales’ Chief Executive Lee Walters says “There’s no better way to share stories and experiences than with an audience at your local cinema, and we are proud to support these organisations making film the focus of their communities. In the coming year we will continue to adapt our funding to best meet the needs and ambitions of Wales’ exhibitors as they face new challenges in a rapidly evolving sector.”
Read all about our latest funding awards here: https://lnkd.in/eFjBqDXF
Bydd sinemâu untro newydd, hybiau creadigol sy’n tyfu a gwyliau ffilmiau eang yn denu ac yn diddanu cymunedau ledled Cymru diolch i Gyllid Arddangos Ffilmiau gan Ffilm Cymru.
Gydag arian y Loteri Genedlaethol wedi’i ddirprwyo gan Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales, mae Ffilm Cymru Wales yn rhoi cymorth i arddangoswyr ffilmiau annibynnol i ddifyrru ac ysbrydoli pobl ledled y wlad gyda mwy o ddewis o ffilmiau. Meddai Prif Weithredwr Ffilm Cymru Wales, Lee Walters, “Does dim ffordd well o rannu straeon a phrofiadau na chyda chynulleidfa yn eich sinema leol, ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r sefydliadau hyn i wneud ffilmiau yn ganolbwynt i’w cymunedau. Yn y flwyddyn sydd i ddod fe fyddwn ni’n parhau i addasu ein cyllid i ddiwallu anghenion a gwireddu uchelgeisiau arddangoswyr Cymru orau wrth iddyn nhw wynebu heriau newydd mewn sector sy’n datblygu’n gyflym.”
Darllenwch fwy yma: https://lnkd.in/eMUeDx2k